Mae cyfarwyddwr cwmni adeiladu wedi egluro mai ei gyfnod o salwch sydd wedi arwain at roi’r cwmni yn nwylo’r gweinyddwyr.
Aeth cwmni Cuddy Group i drafferthion ar ôl i Mike Cuddy, oedd yn allweddol yn nyddiau cynnar rhanbarth rygbi’r Gweilch, dreulio chwe mis yn yr ysbyty yn dioddef o gyflwr niwrosarcoidosis.
Dywedodd nad oedd unrhyw un wedi camu i’r bwlch yn ystod ei waeledd.
Mae tua 130 o weithwyr y cwmni wedi cael cynnig swyddi gyda’r adeiladwyr tai Persimmon. Fe fydd y gweithwyr yn cael gwybod mwy am y sefyllfa ddydd Llun.
Datganiad
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni fod y sefyllfa wedi cael effaith ar iechyd Mike Cuddy dros y blynyddoedd diwethaf, a’i fod e wedi penderfynu dychwelyd i’r gwaith ym mis Ebrill i geisio datrys y trafferthion – a hynny’n groes i gyngor meddygol.
Ar ôl buddsoddi’n helaeth, doedd ganddo fe ddim dewis ond rhoi’r cwmni yn nwylo’r gweinyddwyr, meddai’r datganiad.
“Fodd bynnag, mae e’n bwriadu gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod gweithlu’r cwmni’n llwyddiannus wrth ddod o hyd i waith arall.”