Rhedwr o’r Eidal sydd wedi ennill Ras yr Wyddfa eleni – a hynny mewn amodau tamp a niwlog iawn yn Eryri.

Fe lwyddodd Alberto Vendare i gyrraedd y copa a dychwelyd i bentref Llanberis, pellter o ychydig dros 15km, mewn awr a chwe munud.

Chris Holdsworth oedd yn yr ail safle, gyda Rob Samuel a Chris Smith yn drydydd ac yn bedwerydd.

Fe groesodd y ddynes gyntaf, Bronwen Jenkinson o’r Waunfawr, y llinell derfyn mewn awr ac ugain munud.