Mae Dŵr Cymru yn mynnu mai cario dŵr o’r naill gronfa ddŵr i’r llall yng Nghymru y mae nifer o danceri yn Eryri ar hyn o bryd – ac nid cario dŵr o Gymru i Loegr.

Mae nifer o danceri wedi’u gweld yn ardal Cwellyn, ar ffordd gefn yr A4085 rhwng Caernarfon a Phorthmadog, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac mae sïon yn lleol yn rhemp mai cario dŵr i ddinas Manceinion y mae’r cerbydau mawr.

Ond mae Dŵr Cymru yn dweud wrth golwg360 mai “symud dŵr rhwng cronfeydd” y mae’r tanceri, a hynny “er mwyn atal lefelau dŵr rhag ddisgyn yn ormodol”.

Mae cronfa Cwellyn yn darparu dŵr yfed i rannau o siroedd Gwynedd a Môn. Mae Cwellyn, rhwng mynyddoedd Moel Eilio a Mynydd Mawr nepell o bentref Rhyd Ddu, yn llyn 215 acer, ac mae’n 120 troedfedd o ddyfnder.