Mae disgwyl  i tua 296,000 o bobol ddefnyddio Maes Awyr Caerdydd yn ystod gwyliau’r haf eleni.

Yn ystod y chwe mis nesa’, mae prif faes awyr Cymru yn amcangyfrif cynnydd o 11% yn nifer y teithwyr o gymharu â ffigyrau y llynedd.

Mae hyn yn golygu mai gwyliau’r haf 2018 fydd cyfnod prysura’r maes awyr ers deng mlynedd.

Ymhlith rhai o’r lleoliadau mwya’ poblogaidd gan deithwyr eleni y mae:

  • Palma, Majorca
  • Amsterdam
  • Doha
  • Alicante
  • Malaga

“Cyfnod cyffrous”

“Mae cychwyn gwyliau’r haf o hyd yn gyfnod cyffrous i ni yma ym Maes Awyr Caerdydd, ac hyd yn oed yn fwy eleni gyda ein holl ddatblygiadau arbennig,” meddai Deb Barber, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd.

“Rydym ni’n croesawu teuluoedd sy’n cychwyn ar eu taith ar wyliau haeddiannol yn yr heulwen, cwsmeriaid sy’n cymryd y cyfle i ymweld â theulu a ffrindiau, ynghyd â’r ymwelwyr hynny i Gymru sy’n dewis Caerdydd fel y porth i’r Deyrnas Unedig.”