Mae dyn 35 oed o Ferthyr Tudful wedi ei garcharu ar ôl rhefru ei gar y tu allan i gartre’ plismon a’i deulu.

Fe ymddangosodd Mathew Pippin o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher (Gorffennaf 18), ynghyd â Ricky Price, 28 oed, ac Adam Bowen, 22 oed.

Roedd y tri dyn yn ymddangos gerbron y llys mewn cysylltiad â digwyddiad a fu yn ystod yr hwyr ar Ebrill 16.

Yn ôl yr heddlu, roedd Mathew Pippin, a oedd yng nghwmni Ricky Price ac Adam Bowen ar y pryd, wedi gorchymyn bod plismon yn symud ei gar heddlu.

Yn fuan wedyn, fe dderbyniodd yr heddwas alwad wrth ei wraig yn dweud bod y tri dyn wedi parcio dau gerbyd y tu allan i gartre’r teulu, gan syllu at ffenest y tŷ a rhefru eu ceir.

Fe gafodd y tri eu harestio yn ddiweddarach ar ffordd yr A465.

Fe dderbyniodd Mathew Pippin 77 diwrnod o garchar, ynghyd â gorchymyn i beidio â chysylltu ag unrhyw aelod o’r heddlu mewn ffordd fygythiol am y pum mlynedd nesa’.

Mae’r ddau arall wedi derbyn wyth wythnos o garchar sydd wedi’i ohirio am flwyddyn, ynghyd â gorchymyn i wneud 100 awr o waith cymunedol.