Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.29m er mwyn datblygu’r diwydiant moch.

Daw’r cyhoeddiad hwn yn dilyn cynllun peilot a gafodd ei reoli gan y corff Menter a Busnes rhwng mis Mawrth 2017 a 2018.

Fe gafodd ‘Menter Moch Cymru’ ei lunio er mwyn cefnogi a datblygu’r diwydiant moch yng Nghymru.

Mae tua 25,000 o foch yng Nghymru ar hyn o bryd sy’n cynhyrchu 3,200 tunnell o gig moch y flwyddyn, a nod ‘Menter Moch Cymru’ yw cynyddu maint y genfaint moch yn y wlad.

Yn ystod y cyfnod peilot, bu’r cynllun yn ceisio datblygu cynnyrch a marchnadoedd lleol, ynghyd â chynyddu’r cyfleoedd i ehangu ar gyfer cynhyrchwyr presennol a chefnogi newydd ddyfodiaid.

Fe lwyddodd y cynllun i gyflawni mwy na’i dargedau gwreiddiol, ac mae’r cyllid newydd yn golygu y bydd yn parhau am bedair blynedd arall.

“Buddsoddiad sylweddol”

Yn ôl Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes, mae’r buddsoddiad hwn yn un “sylweddol” a fydd yn cael ei “groesawu’n fawr” gan y diwydiant moch.

“Mae’n gyfle mawr i’r sector moch, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit,” meddai.

“Bydd gan gynhyrchwyr moch presennol Cymru’r hyder a’r offer i godi eu busnesau i’r lefel nesaf, tra bod gan newydd ddyfodiaid yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd ei angen ar gyfer sefydlu eu mentrau.”