Mae’r Sioe Fawr yr un mor “bwysig” i ddiwylliant Cymru ag y mae i’r diwydiant amaeth, yn ôl ffermwr ifanc o Geredigion sy’n sylwebu ar gystadlaethau.

Bydd y Sioe Fawr yn cael ei chynnal yn Llanelwedd yr wythnos nesa’, ac mae disgwyl i dros 200,000 o bobol dyrru i’r digwyddiad sy’n para pedwar diwrnod.

Yn ôl Cennydd Jones o fferm Rhydowen ym Mhont-siân, mae’r Sioe Fawr yn “siop ffenest fowr” i amaeth yng Nghymru, ond yn fwy na hynny, mae’n “bwysig” i’r Gymraeg a’i diwylliant hefyd.

“Er falle y bydde pobol yn dychmygu bod y Sioe Frenhinol, gyda’i enw, ddim mor Gymreig â hynny… mae’r Sioe Frenhinol yn reial Gymreig,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna fwrlwm ac mae yna Gymraeg i’w chlywed ymhob man hefyd.

“Mae e’ yn bwysig i ddiwylliant ni’r Cymry ymhellach na dim ond amaeth.

“Mae’n bwysig i gymunede cefn gwlad, a bydden i’n dweud i Gymru yn gyfan gwbl hefyd.”

“Stoc o’r ansawdd gore”

 Ynghyd â chydlynu rhai o weithgareddau’r Ffermwyr Ifanc ar Faes y Sioe, bydd Cennydd Jones hefyd yn sylwebu ar gystadlaethau’r moch am ddau ddiwrnod yr wythnos nesa’.

Er ei fod yn cydnabod bod cymdeithasu wrth y bar yn un atyniad ar gyfer ffermwyr ifanc, mae’n dweud mai’r ochr amaethyddol o’r sioe sy’n apelio fwyaf.

“Dw i’n dwlu ar y Sioe o achos amaeth yn fwy na dim,” meddai.

“Mae’n gyfle i weld stoc o’r ansawdd gore, yn enwedig y moch. Y moch a’r gwartheg godro y bydden i’n ymddiddori ynddo fwyaf.

“Bydda’ i’n cael cyfle i sylwebu ar y moch am ddau ddiwrnod yr wythnos nesa’, ac mi fydda’ i’n mynd i wylio’r gwartheg godro fel y galla’ i yn fy amser rhydd.

“A hefyd, mae’n gyfle i fynd i’r cyfarfodydd yna a mynd i’r seminarau, a chael chat ar stondinau.”

Wythnos o arlwy

 Bydd y Sioe Fawr yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun a dydd Iau’r wythnos nesa’ (Gorffennaf 23-27).

Yn ôl trefnwyr y sioe, mi fydd tua 7,000 o anifeiliaid yn bresennol ar y maes yn Llanelwedd, gyda miloedd o gystadlaethau ar eu cyfer.

Bydd hefyd dros 1,000 o stondinau masnachol ar y maes, ynghyd â gweithgareddau sy’n amrywio o chwaraeon, coginio, gwaith crefft, dawnsio a chanu.

Bydd adloniant ar gael i wersyllwyr yn y Pentref Ieuenctid, sy’n cael ei reoli gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, ac ar fferm Penmaenau.

Mae disgwyl y bydd tua 4,000 o wersyllwyr a 14,000 o bobol ifanc yn ymweld â’r Pentref Ieuenctid.

Bydd bandiau Cymraeg fel Yr Eira, Candelas a’r Cledrau ymhlith y perfformwyr yno.