Mae’r Aelod Seneddol Guto Bebb yn dweud wrth y cyhoedd i anghofio am y jôcs ar-lein am ei enw, ac mae am iddyn nhw bryderu yn hytrach am Brexit.

Ers iddo ymddiswyddo o’i rôl weinidogol ar ddechrau’r wythnos, mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn orlawn â jôcs yn gwneud hwyl am ben ei enw Cymraeg.

Ond mae AS Aberconwy yn nodi nad yw’r dirmyg yn “beth newydd”, ac mae am i bobol dalu sylw at y trafod ar ddyfodol y Deyrnas Unedig.

“Mae’r [dirmyg] yn beth yr ydym ni gyd yn gorfod derbyn,” meddai wrth golwg360. “Dim dyma’r peth mwyaf arswydus yr ydym yn ei wynebu.

“Dw i’n poeni llawer iawn yn fwy am y posibiliad o adael [Ewrop] heb gytundeb, nag ydw i am y ffaith bod rhai pobol methu deall bod rhywun yn Gymro Cymraeg efo enw Cymreig.”

Ymddiswyddo

Ymddiswyddodd Guto Bebb o’i rôl yn y Weinyddiaeth Amddiffyn ddydd Llun (Gorffennaf 16) ar ôl pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ar ddeddfwriaeth Brexit.

Roedd y Llywodraeth am ganiatáu gwelliannau i’w cynlluniau – cynlluniau a gafodd eu cynnig gan Dorïaid sy’n ffafrio Brexit – ond gwrthododd yr Aelod Seneddol y chwip.

Cafodd y gwelliannau yma eu pasio, a bellach mae Guto Bebb yn pryderu bod y posibiliad o gael “cytundeb adeiladol” ag Ewrop bellach yn “llawer llai tebygol”.

“Mae pob dim sydd wedi cael ei wneud gan y Llywodraeth, wedi’i wneud ar y sail ein bod ni’n trio cael cytundeb adeiladol,” meddai.

“A dyna pam mae’n ddiwedd y daith i mi fel gweinidog. Oherwydd, roedd y penderfyniad i dderbyn y gwelliannau yma – yn fy marn i – yn benderfyniad oedd yn arwain at gynyddu yn arswydus y posibilrwydd ein bod ni’n gadael heb gytundeb. Dydy hynna ddim yn dderbyniol.”

Ail refferendwm?

Ymgyrchodd Guto Bebb tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’n mynnu ei fod yn derbyn canlyniad y refferendwm Brexit, ac yn cydnabod bod angen gweithredu tros hynny.

Mae’n nodi nad yw’n “sicr” y byddai  cynnal ail refferendwm yn “ateb y gofid”, ac yn credu na ddylwn fod yn trafod y posibiliad tra bod ymgais ar droed i daro bargen.

Ond mae Guto Bebb yn “bur negyddol” am y sefyllfa:  “Mae’r niwed economaidd o beidio cael cytundeb yn arswydus yn fy marn i.”