Mae Cadeirydd y corff sy’n gofalu am adnoddau naturiol Cymru wedi ymddiswyddo yn sgil sgandal tros gytundebau gwerthu pren.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi bod yn ymchwilio i waith Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yr wythnos hon mi wnaethon nhw gyhoeddi adroddiad beirniadol o’r corff.

Yn ôl yr adroddiad hwnnw,  mae SAC yn nodi bod pren o goedwigoedd cyhoeddus wedi bod yn cael eu gwerthu dan amodau annheg.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Gyfoeth Naturiol Cymru gael eu beirniadu am y broblem honno.

Bu ymateb chwyrn gan Aelodau Cynulliad i’r adroddiad, a chafodd ymddiswyddiad Diane McCrea ei gyhoeddi brynhawn ddydd Iau (Gorffennaf 19).

“Priodol”

“Rwyf wedi derbyn ymddiswyddiad Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru heddiw,” meddai’r Ysgrifennydd tros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Mae’n ymateb priodol yng ngoleuni adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru sy’n amodi’r cyfrifon am y trydydd tro ac yng ngoleuni pryderon a beirniadaeth gan bob plaid yn y Cynulliad.

“Rwyf wedi ysgrifennu at Diane McCrea i ddiolch iddi am ei gwasanaeth.”

Bydd Cadeirydd dros dro yn cael ei benodi gan Lesley Griffiths, tra bydd proses ar droed i benodi Cadeirydd newydd.