Mae ffensys diogelwch bellach wedi’u codi yn ardal Llanfair-ym-muallt a Llanelwedd, fel rhan o fesurau diogelwch newydd ar gyfer y Sioe Fawr.

Bydd y sioe yn cael ei chynnal eleni rhwng Gorffennaf 23 a Gorffennaf 26, a daw’r mesurau diweddara’ yma yn sgil marwolaeth ffermwr ifanc adeg y sioe y llynedd.

Fe ddiflannodd James Corfield, 19, ar ddiwrnod cynta’ sioe 2017, a chafodd ei gorff ei ddarganfod yn afon Gwy bum niwrnod yn ddiweddarach.

Yn sgil hyn, cafodd grŵp gweithredu diogelwch ei sefydlu, ac aeth y grŵp yma ati i argymell cyfres o fesurau diogelwch.

Bydd y rhain oll mewn grym yn ystod y sioe.

Mae’r mesurau’n cynnwys:

  • Creu ‘Llwybr Gwyrdd’ o dref Llanfair-ym-Muallt i faes y Sioe, Fferm Penmaenau a’r Pentref Ieuenctid
  • Canolfan les newydd yn y dre ar safle’r hen Ganolfan Groeso
  • Bugeiliaid stryd yn gweithio yn y dref cyn ac yn ystod pedwar diwrnod y sioe
  • Gosod ffens ddiogelwch newydd rhwng ardal y Gro ac afon Gwy
  • Trefniadau traffig a thacsis
  • Mwy o doiledau cyhoeddus
  • Camerâu CCTV yn y dre