“Mae yna ymrwymiad cadarn yng Nghastell Penrhyn i gynnig profiad dwyieithog o’r radd flaenaf yn ogystal â thrin a thrafod ein hanes cymhleth a heriol.”

Dyna yw ymateb yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – perchnogion y safle ger Bangor – i feirniadaeth gan Gylch yr Iaith, a gwleidyddion Dyffryn Ogwen mewn stori ar y wefan hon.

Mewn llythyr agored a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher (Gorffennaf 18) mae’r mudiad pwyso wedi dweud bod angen gwella’r ddarpariaeth Gymraeg ar y safle.

Yn ogystal, maen nhw am weld hanes y castell, a’i berthynas gyda’r gymuned leol, yn cael ei adlewyrchu ar y safle yn well.

Yr ymateb

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ymateb trwy ddweud bod eu “holl waith ysgrifenedig ar y safle yn gwbl ddwyieithog” – gan gynnwys arwyddion a gwybodaeth am y castell.

Hefyd maen nhw’n nodi bod nifer y bobol sy’n gweithio yn y castell ac sy’n medru – neu ddysgu’r Gymraeg – wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwetha’.

“Mae yna fwy o siaradwyr Cymraeg yng Nghastell Penrhyn nac erioed,” meddai’r corff, gan nodi bod 3/7 o’i staff croesawu ymwelwyr yn siarad Cymraeg, a bod 2/7 yn dysgu’r iaith.

O ran cydnabod ac adlewyrchu hanes yr ardal mae’r ymddiriedolaeth yn nodi,  “ein bwriad yw gosod hanes a threftadaeth yr ardal wrth galon y castell”.