Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cyflwyno cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu’r busnes dros yr 20 mlynedd nesaf – ac mae’r prif sylw ar droi’r lle yn “borth allweddol i’r Deyrnas Unedig”.

Fe gyhoeddwyd y Prif Gynllun Drafft gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yr wythnos hon, ac mae’n nodi dyheadau’r maes awyr i fod yn faes awyr sy’n “cysylltu Cymru i’r Byd a’r Byd i Gymru”.

Gyda chenhadaeth hefyd i fod yn fusnes maes awyr cynaliadwy sy’n creu budd economaidd sylweddol i Gymru, rhaid i’r Maes Awyr gael ei integreiddio i gynllunio lleol a chenedlaethol, meddai’r cynllun.

Nod Maes Awyr Caerdydd yw tyfu o’r 1.5 miliwn o deithwyr presennol y flwyddyn i dair miliwn a thu hwnt. Felly, mae’n rhaid i gyfleusterau gwrdd ag anghenion nifer cynyddol y teithwyr ond hefyd cwrdd â disgwyliadau teithwyr modern ac yn rhagori arnynt.

Ymhlith y cynlluniau newydd mae adeiladu gwesty 4*, maes parcio a therfynfa newydd.

Mae Maes Awyr Caerdydd yn gofyn am adborth ar y Prif Gynllun Drafft erbyn Medi 14, 2018. Bydd Prif Gynllun terfynol wedyn yn cael ei lansio yn Hydref 2018.