Mae’r anghysondeb wrth geisio dod o hyd i werslyfrau Cymraeg yn “destun pryder mawr”, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Bu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn casglu tystiolaeth am argaeledd deunydd dysgu yn Gymraeg a Saesneg mewn ysgolion ledled y wlad.

Ac mewn adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (Gorffennaf 19),  mae’r pwyllgor yn adrodd bod yna drafferthion ag adnoddau dysgu – gwerslyfrau ac ati – yn y ddwy iaith.

Yn achos athrawon cyfrwng Cymraeg, clywodd y pwyllgor bod yn rhaid iddyn nhw gyfieithu adnoddau o’r Saesneg oherwydd y diffyg.

Ac mae hyn , meddai’r Aelod Cynulliad, wedi golygu ragor o waith i’r athrawon yma, ac yn debygol o olygu bod “anghysondebau” yn y cyfieithiadau.

“Pryder mawr”

“Mae clywed gan ddisgyblion ac athrawon fod ganddynt brinder adnoddau, nad yw llyfrau weithiau’n cyrraedd tan ganol y flwyddyn ysgol, a bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mor anghyson yn destun pryder mawr,” meddai Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Testun pryder arall yw’r diffyg eglurder o ran pwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan ein disgyblion yr adnoddau dysgu sydd eu hangen arnynt yn y ffurf sydd fwyaf addas iddynt hwy.

“Mae angen inni gael gwybod pwy ddylai fod yn darparu gwerslyfrau, y caiff y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ei chynnig ar yr un pryd â’r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg, a bod gwerslyfrau ac adnoddau athrawon yn rhan o’r pecyn craidd o adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr.”

Argymhellion

Mae’r pwyllgor wedi cynnig 15 o argymhellion, sy’n cynnwys:

  • Rhaid darganfod i ba raddau y mae athrawon yn cyfieithu adnoddau eu hunain – ac yna bwrw ati i’w cyfieithu yn ganolog.
  • Rhaid cael eglurhad ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod adnoddau ar gael i bob disgybl.
  • Dylai’r Llywodraeth gefnu ar gynlluniau i gyhoeddi deunydd Saesneg yn hwyrach – mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud hynny fel bod deunydd y ddwy iaith yn medru cael eu cyhoeddi ar yr un pryd.