Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ger maes awyr Abertawe.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Cila Ucha’r ddinas am oddeutu 9.30 fore heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 18).

Mae’r ffordd, sy’n mynd heibio cae ymarfer Clwb Pêl-droed Abertawe, ynghau i’r ddau gyfeiriad am y tro.

Mae’r gwasanaeth tân ac ambiwlans ar y safle, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.