Mae dyn 48 oed o ddwyrain Lloegr wedi’i ddedfrydu i gyfnod o garchar wedi’i ohirio am ddwyn beic cwad ym Mhowys.

Roedd Matthew Coulter, o Ipswich, wedi pledio’n euog i yfed a gyrru ac o ddreifio heb yswiriant, ac fe’i cafwyd yn euog hefyd o ladrad.

Fe gafodd ei arestio wedi i feic cwad a threlar gael eu dwyn oddi ar briffordd yr A40 ger Bwlch, Powys, ar Ebrill 30 eleni.

Fe lwyddodd Heddlu Dyfed-Powys i ddilyn hynt y cerbyd ar hyd yr A40, a chydweithio gyda Heddlu Gwent er mwyn dal y lleidr yn Y Fenni.

Yn ychwanegol at ei flwyddyn o garchar wedi’i gohirio, mae Matthew Coulter wedi’i wahardd rhag gyrru am dair blynedd, ac mae gofyn iddo dalu costau o £500 ynghyd â £115 arall i berchennog y cwad.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys, mae’r achos hwn yn enghraifft o’r modd y mae’r llu yn cymryd lladradau oddi ar ffermydd o ddifri’.