Mae merch o Landeilo ger Caerfyrddin sy’n byw yn Llundain ers dwy flynedd, yn dweud bod Llundeinwyr “yn cario ymlaen” gyda bywyd pob dydd, er gwaetha’r cynnydd diweddar yn nifer y troseddau difrifol.

Yn ôl Lisa Childs, 26, sy’n rheolwr cysylltiadau cyhoeddus i Faes Awyr Heathrow, dydi hi ddim yn teimlo dan fygythiad yn y ddinas – a hynny am ei bod yn byw mewn ardal “eitha’ cyfoethog”, Maida Vale.

“Sa i’n gweld Llundain yn ddinas beryglus i fod yn onest ond dyw’r cyfryngau a’r newyddion jyst ddim yn helpu, naill ai’r newyddion am y stabbings neu terrorism a muggings. Dyw hwnna jyst ddim yn helpu fi i deimlo’n saff o gwbwl,” meddai wrth golwg360.

“Does dim ardal bydden i ddim yn mynd iddi ond os bydden i’n cerdded ar ben fy hunan yn y nos, dim ond falle yn ne Llundain neu yn y dwyrain… falle byddai hi’n stori wahanol yn fan honno.

“Ond mae hwnna’r un peth os bydden i’n cerdded ar ben fy hunan yn y nos yng Nghaerdydd hefyd.”

Pawb yn fwy “alert

Un peth sydd wedi newid ychydig yn Llundain, meddai, yw ymwybyddiaeth pobol o beryglon ers i’r ddinas ddioddef cyfres o ymosodiadau brawychol y llynedd.

“Yn allanol, mae pawb jyst yn cario ymlaen gyda bywyd, ond fi’n credu yn enwedig ar y Tube ac ar y bws, mae pobol tipyn bach yn fwy ymwybodol, yn edrych mas am fagiau sydd ar ben ei hunain neu jyst bach mwy alert efallai gallwch chi ddweud.

“Yn enwedig ar drafnidiaeth a llefydd lle mae lot o bobol ond dw i wedi bod i Borough Market ers i bopeth ddigwydd ac fe wnes i anghofio am beth ddigwyddodd a jyst cario ymlaen. Dim ond pan es i adre’, wnes i gofio beth ddigwyddodd yno yr haf diwethaf.

“O’n i yn San Steffan pan wnaeth [yr ymosodiad yn yr ardal] ddigwydd haf diwethaf a fi’n mynd i San Steffan dwywaith yr wythnos.

“Dw i jyst yn cario ymlaen, dim newid beth fi’n gwneud a shwt i fi’n teimlo ond jyst bod bach yn fwy ymwybodol a bach yn fwy alert yn lle edrych ar y ffôn… jyst bod bach yn fwy present.”