Mae Elin James Jones, 27, yn gweithio yn San Steffan, ac yn dweud ei bod yn clywed am lawer mwy o achosion o bobol ar fopeds yn dwyn ffonau symudol yn Llundain y dyddiau hyn.

Yn ôl y ferch o Fro Morgannwg, sydd wedi byw yn Wandsworth ers bron i dair blynedd, mae llawer o’i chyfoedion wedi cael eu heffeithio gan y gangiau yn y ddinas.

“Dw i yn nabod pobol lle mae hwnna wedi digwydd iddyn nhw, naill ai cydweithiwr yn y gwaith ac mae yna ardaloedd penodol fi’n credu lle mae hynny’n dueddol o ddigwydd yn fwy aml,” meddai, gan ddweud bod un stryd yn ardal Islington yn cael ei thargedu eto ac eto.

Ond ar y cyfan, meddai wedyn, mae’n teimlo’n “ddiogel” yn Llundain ac yn dweud bod rhaid peidio meddwl yn ormodol am droseddau pan fo rhywun yn byw mewn dinas mor fawr.

Byth yn ofni mynd mas 

“Mae’n teimlo’n saff, dw i byth yn cwestiynu mynd allan yn y nos,” meddai wrth golwg360.

“Er enghraifft, mae’r llinellau Northern Line ar agor 24 awr y dydd ar benwythnosau a dw i byth yn cwestiynu cymryd y trên yn ôl yn hwyr y nos.

“Fi’n credu pan ti’n byw mewn dinas mor fawr â Llundain, os faset ti’n cwestiynu’r holl risg o bethau allith ddigwydd i ti, byset ti ddim yn gallu mynd i unrhyw le.

“Mae yna gymaint o wahanol straeon o wahanol ardaloedd, hyd yn oed os y’ch chi’n meddwl am y risg o ran terfysgaeth, se chi’n meddwl amdano fe’n ddyddiol, bysech chi ddim really yn gallu byw eich bywyd chi.

“Yr unig beth fydden i siŵr o fod yn meddwl dwywaith amdano fe yw, dweud bod hi’n hwyr y nos, bydden i’n dueddol o drio osgoi bod fi ar ben fy hun mewn ardal dawel, dawel.

“Bydden i’n trio fy ngorau i osgoi ardaloedd fel yna, ond dyna’r unig enghraifft lle dw i’n ymwybodol iawn o ble dw i’n mynd. Ar y cyfan, dw i ddim yn cwestiynu’r peth o gwbwl.”