Mae dyn â gwreiddiau yng Nghymru, sydd wedi byw yn Llundain ar hyd ei oes, yn dweud ei fod wedi gweld cynnydd yn nifer y troseddau ym mhrifddinas Lloegr.

Yn ôl Ifan Batey, 27, o ardal Chiswick yn y ddinas, er ei fod e’n gweld Llundain yn lle diogel, mae’n cydnabod bod llai o heddlu a mwy o droseddau ar y strydoedd hyd yn hyn.

Mae’n siarad â golwg360 wrth i nifer yr adroddiadau newyddion am droseddau trywanu a gangiau moped yn Llundain, gynyddu.

“Dw i ddim yn gweld [Llundain] yn beryglus, ond dw i’n meddwl bod hwnna’n fwy i wneud gyda specifically lle r’yn ni’n byw yn Llundain,” meddai’r gamblwr proffesiynol, sydd wedi dysgu Cymraeg gan ei fam, Ann Batey, sy’n dod o Grymych, yn wreiddiol.

“Ni’n byw yn y west, mae’n relatively saff a dw i’n ddyn eitha’ tal, efallai byddai’n wahanol taswn i’n fenyw yn byw yn Lewisham neu rywle fel yna.

“Yn Llundain generally… mae crime i lan eitha’ llawer. Dw i’n meddwl bod violent crimes wedi increaso dros lot o years. Mae llai o arian gan yr heddlu ac mae ein police station ni yn Chiswick wedi cau lawr hefyd yn eitha’ recently.”

Mygio a lladrata

Dywed ei fod wedi cael ei fygio unwaith ac mae lladron wedi bod yn y tŷ tair gwaith dros y 15 o flynyddoedd diwethaf.

Ond mae’r rhain i gyd yn achosion sy’n gallu digwydd yn unrhyw le, meddai.

“Dyw e ddim yn neis ond ges i drosodd e yn eitha’ cloi. Mae’n rhaid i ti jyst meddwl ‘wel mae hwn yn gallu digwydd’, so mae’n rhaid i ti jyst trio mynd ‘mlaen gyda fe.

“Mae e’n gallu digwydd ymhob man a llawer gwaeth mewn llawer o lefydd. Ym Mhrydain, does dim drylliau yn widely available, ni’n weddol lwcus. Mae stwff drwg yn mynd i ddigwydd ond yn llai aml na dinasoedd eraill a gwledydd eraill.

“Dw i’n credu bod [Llundain] wedi mynd yn llai saff dros y last few years ond [mae’n] relatively saff overall.”