Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhuddo Prif Weinidog Cymru a Llywodraeth Cymru o “wastraffu amser” cyn cyhoeddi Bil y Gymraeg.

Daeth cyhoeddiad y byddai’r Bil yn cael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf (2019) ond mae hynny’n “gwastraffu amser ar ymdrech i wanhau hawliau pobol, yn ôl y mudiad.

Ym mis Ionawr, dywedodd Gweindiog y Gymraeg, Eluned Morgan fod “loads” o weision sifil yn gweithio ar Safonau’r Gymraeg, sef yr hawl statudol i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond mae’r Gymdeithas yn dweud ei bod hi bellach yn cyfaddef nad yw’r un gwas sifil yn gweithio ar baratoi’r Safonau, a bod yn canolbwyntio yn hytrach ar lunio Deddf Iaith newydd.

Mae hynny, yn ôl y Gymdeithas, yn golygu na fydd hawliau iaith ym meysydd trenau, dŵr, bysiau, ynni a thelathrebu tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn 2021.

Gwrthwynebu’r Llywodraeth

Yn ôl ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar, roedd mwyafrif y bobol wnaeth ymateb yn gwrthwynebu’r cynlluniau i ddiddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg, ei gwneud hi’n fwy anodd gwneud cwynion a gwanhau pwerau i osod dyletswydd ar gyrff i ymrwymo i’r Gymraeg.

“Mae’r Llywodraeth yma wedi colli ffydd cefnogwyr y Gymraeg yn gyfan gwbwl,” meddai Osian Rhys, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Yn lle defnyddio’u pwerau presennol i estyn hawliau i gael pethau fel ffonau symudol Cymraeg a gwasanaethau ynni, trên a bws yn Gymraeg, maen nhw’n gwastraffu amser ar ymdrech i wanhau hawliau iaith pobol.

“Yn wir, o achos penderfyniadau Eluned Morgan mae’n annhebyg y gwelwn ni unrhyw hawliau iaith mewn sectorau newydd tan ar ôl yr etholiadau nesa’.

“Dydi’r Llywodraeth ddim wedi gwrando o gwbwl: dim ond 15% o’r rhai wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad oedd yn cefnogi’r cynnig annoeth i ddiddymu’r Comisiynydd. Doedd hynny ddim ym maniffesto’r Blaid Lafur chwaith; does ganddyn nhw ddim mandad o gwbwl i wneud hyn.”

“Dydyn ni ddim yn deall pam fod Eluned Morgan yn mynnu dilyn agenda o leihau rheoleiddio er lles cyrff a busnesau pwerus,” meddai wedyn. “Mae ei phenderfyniad i wrthod ymestyn y Safonau i’r sector breifat yn mynd yn gwbwl groes i farn pobol Cymru ac Aelodau Cynulliad.

“Mae’n gam mawr yn ôl ei bod hi’n sôn am ‘ddarbwyllo’ busnesau mawrion pan fo pob arbenigwr yn gwybod mai rheoleiddio yw’r unig ffordd o gael gwasanaethau Cymraeg o safon.

“Mae cyfundrefn y Safonau yn dechrau gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad felly mae’n warthus bod y Llywodraeth am droi’r cloc yn ôl i Ddeddf Iaith wan,” meddai.