Mae’r gwahaniaeth rhwng cyflogau dynion a merched o fewn Llywodraeth Cymru’n tanseilio gweledigaeth y Prif Weinidog, Carwyn Jones o arwain “llywodraeth ffeministaidd”, yn ôl gwleidydd Ceidwadol blaenllaw.

Mae ffigurau’r Adroddiad Cydraddoldeb Cyflogwyr Blynyddol yn dangos bod y bwlch wedi ehangu yn 2016-17 o’i gymharu â’r flwyddyn gynt, gyda dynion yn ennill mwy na merched ym mhob un o’r bandiau cyflog.

Ar gyfartaledd, mae dynion yn ennill £40,261 tra bod merched yn ennill £37, 009 yn unig.

Cafodd y mater ei godi yn y Siambr gan yr Aelod Cynulliad Ceidwadol tros Aberconwy, Janet Finch-Saunders.

‘Diffyg cynnydd amlwg’

Mewn datganiad, dywedodd fod y ffigurau’n dangos “diffyg cynnydd amlwg” yng ngweledigaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones o greu “gweithle mwy cydradd”.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru’n hoff iawn o alw eu hunain yn flaengar a modern ond mae hyn, yn syml, yn tynnu sylw at y ffaith nad ydyn nhw’n arfer yr hyn maen nhw’n pregethu amdano.

“Roedd ei ateb yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog heddiw i’r hyn sy’n fater pwysig yn dangos diffyg sylw a llwyddiant wrth gau’r bwlch cyflog rhwng y ddau ryw yn Llywodraeth Cymru.

“Nid yw’n ymddangos yn naid fawr i ddweud fod Llywodraeth Cymru ymhell o fod yn llywodraeth ffeministaidd – maen nhw’n esgeuluso merched.”