Mae nifer y bobol sydd mewn gwaith yn parhau’n is yng Nghymru, o gymharu â’r boblogaeth dros y Deyrnas Unedig gyfan.

Rhwng Mawrth a Mai eleni, roedd 74% o boblogaeth Cymru yn gweithio, o gymharu â’r ffigwr dros wledydd Prydain oll, sef 75.7%.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau hefyd yn dangos bod 4.5% o bobol Cymru wedi bod yn ddi-waith yn ystod y cyfnod hwn – 4.2% oedd y ffigwr yn y Deyrnas Unedig.

O gymharu â’r cyfnod rhwng Rhagfyr a Chwefror, roedd ‘na gwymp o 0.1% yn lefel diweithdra Cymru.

“Mae’r ansicrwydd ynghylch Brexit ac ein perthynas masnach â’r Undeb Ewropeaidd yn golygu bod … creu swyddi o safon uchel yma yng Nghymru, yn bwysicach nag erioed,” meddai Carwyn Jones, y Prif Weinidog, wrth ymateb i’r ffigurau.