Fe fydd cyn-aelodau cangen Plaid Cymru Llanelli – a gafodd eu gwahardd gan y blaid – yn lansio grŵp newydd yn ddiweddarach heno (nos Fawrth, Gorffennaf 17).

‘Fforwm Llanelli’ yw enw’r grŵp, a’u nod yw cynnal dadleuon cyhoeddus o leia’ unwaith y mis ar lu o faterion gwleidyddol.

Mewn cyfweliad â golwg360, mae aelod o’r grŵp eisoes wedi nodi eu bod yn “niwtral” ac yn “hollol anwleidyddol” o ran aelodaeth.

Fe fydd y lansiad yn cael ei gynnal ym Mharc y Scarlets, Llanelli, gyda’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy yn cymryd rhan.

Hefyd, fe fydd y cynghorydd tref annibynnol, Sean Rees – a fu’n swyddog y wasg i gangen Plaid Cymru Llanelli – yn rhan o’r digwyddiad.