Mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi croesawu ffigyrau gwylio diweddara’r sianel, gan alw 2017/2018 yn “flwyddyn dda”.

Mae adroddiad blynyddol diweddaraf S4C wedi ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 17), ac yn dangos cynnydd mewn rhai meysydd a gostyngiadau mewn meysydd eraill.

Yn ôl ffigurau’r adroddiad, mae cyrhaeddiad y darlledwr ledled y Deyrnas Unedig wedi cynyddu i’w lefel uchaf ers 2004, sef 690,000.

Ac mae’n brolio fod Hansh – gwasanaeth ar-lein a gafodd ei lansio haf y llynedd, ac sy’n targedu oedolion ifanc – wedi denu 4.9 miliwn o sesiynau gwylio ar-lein.

Hefyd mae’r nifer sy’n gwylio eu deunydd ar-lein wedi cynyddu 7%, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Y drwg

Er hyn i gyd, fe fu gostyngiad yn y ffigurau cyrhaeddiad wythnosol, misol, a blynyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, yn ystod 2017/18.

Ac er bod cyrhaeddiad Cyw – rhaglen blant ifanc S4C – wedi cynyddu, mae cyrhaeddiad Stwnsh – rhaglen sy’n targedu plant saith i 11 – wedi gostwng, o gymharu â’r llynedd.

Yn ogystal, dyw gwariant S4C ar raglenni ledled Cymru ddim i weld yn hafal – ac mae i weld yn ffafrio’r de ddwyrain.

Aeth 21% o’u gwariant orllewin Cymru, 26% i ogledd Cymru a 51% i dde Cymru. Cwmnïau cynhyrchu tu allan i Gymru dderbyniodd y 2% arall.

“Blwyddyn dda”

“Ar deledu’n gyffredinol, mae hon wedi bod yn flwyddyn dda. Mae gwylio cynnwys S4C wedi cynyddu’n sylweddol – yng Nghymru, lle’r oedd i fyny 5%, a hefyd ar draws y DU, lle cafwyd cynnydd o 12%,” meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.

“Gwelwyd gostyngiad bychan mewn gwylio gan siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond mae’r ffigwr hwnnw’n sefydlog dros gyfnod o bedair blynedd, ac o gymryd defnydd ar-lein i ystyriaeth, mae’n debygol fod defnydd cyffredinol o’n gwasanaethau gan siaradwyr Cymraeg mewn gwirionedd wedi bod ar i fyny.”