Mae prosiect newydd sy’n gobeithio diogelu dyfodol y maelgi – angelshark yn Saesneg – wedi’i lansio’n swyddogol heddiw (Gorffennaf 17).

Roedd llawer o faelgwn yn nyfroedd Cymru ar un adeg, ond bellach mae’r rhywogaeth mewn perygl difrifol, ac mae ymhlith un o siarcod prinnaf y byd.

Bydd ‘Prosiect Maelgi: Cymru’ yn cydweithio â phum cymuned arfordirol ledled Cymru, er mwyn casglu data a chreu cynllun cadwraeth am y creaduriaid.

Mae’r prosiect dan arweiniad yr elusen gadwraeth ryngwladol Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac yn cael ei gynnal ochr yn ochr â deuddeg sefydliad arall.

Bae Ceredigion

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r dwsin o bysgotwyr rydyn ni wedi gweithio â nhw yn ystod ein prosiect peilot y llynedd, a helpodd i lywio’r prosiect cyffrous ac arloesol newydd hwn,” meddai Ben Wray, ecolegydd morol o Cyfnoeth Naturiol Cymru.

“Mae achosion o ddal y siarc ar ddamwain yn dangos y gallai Bae Ceredigion yng nghanolbarth Cymru fod yn ardal bwysig ar gyfer y rhywogaeth.

“Bydd y data hwn yn hanfodol er mwyn adeiladu darlun mwy clir o statws ac ecoleg maelgwn yng Nghymru, yn ogystal â llywio Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru.”