Mae heddlu sy’n ymchwilio i ddau ymosodiad honedig yng Nghaerfyrddin, wedi arestio tri o bobol.

Cafodd swyddogion eu galw i ganol y dre am 11.35yh nos Sul (Gorffennaf 15), yn sgil adroddiadau am ymosodiadau ar Heol Awst ac ym Maes Cambria.

Mae chwech o bobol yn honni iddyn nhw ddiodde’ ymosod, a chafodd un dyn ei gludo i’r ysbyty.

Bellach mae dyn 23 oed wedi cael arestio ar amheuaeth o anafu’n fwriadol, o feddu ar arf mewn man cyhoeddus, o gymryd rhan mewn ffrwgwd, ac o feddu ar gyffur dosbarth A.

Hefyd, mae dyn 18 oed, a merch 17 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod yn rhan o ffrwgwd.

Presenoldeb heddlu

“Mae pobol Caerfyrddin yn siŵr o fod wedi sylweddoli  bod yna lawer o blismyn wedi bod yno ddoe [Gorffennaf 16],” meddai’r Ditectif Arolygydd Wayne Bevan o Heddlu Dyfed-Powys.

“Roedden nhw yno yn chwilio am y tri. Cawson nhw eu harestio neithiwr (nos Lun), ac ar hyn o bryd maen nhw yn y ddalfa. Dydyn ni ddim yn chwilio am ragor o bobol yn gysylltiedig â hyn.”