Mae’r gweinidog amddiffyn Guto Bebb wedi ymddiswyddo tros ddadleuon Brexit.

Fe gadarnhaodd aelod seneddol Aberconwy wrth y wasg ei fod wedi rhoi’r gorau i’w swydd er mwyn pleidleisio’n erbyn y Llywodraeth yn Nhŷ’r Cyffredin heno.

Roedd yn anhapus am fod y Prif Weinidog, Theresa May, wedi penderfynu derbyn gwelliannau gan Frexitwyr caled oedd yn gwanhau cytundeb y Cabinet ar y ffordd ymlaen.

Fe ddigwyddodd y cyfaddawdu mewn pleidleisiau tros fesur yn ymwneud â thollau – roedd gwelliannau gan y Brexitwyr caled yn golygu newid y cytundeb a gafwyd yn Chequers dros y Sul.

Wrth geisio eu tawelu nhw, fe achosodd penderfyniad y Llywodraeth i rai o’r ‘arhoswyr’ wrthryfela a dim ond tair pleidlais oedd ynddi ar un o’r gwelliannau allweddol.