Bydd y gofodwr Tim Peake yn bresennol mewn digwyddiad yng Nghaerdydd heddiw ( dtdd Mawrth, Gorffennaf 17) i helpu Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cyllid gwerth £7.2m a fydd yn annog pobol ifanc – yn enwedig merched – i astudio pynciau gwyddonol yn yr ysgol.

Mae’r digwyddiad yn y Tramshed ym Mae Caerdydd wedi’i drefnu gan yr elusen Prince’s Trust Cymru, a’r nod yw cwrdd â phobol ifanc sy’n rhan o raglenni’r elusen sy’n ymwneud â phynciau fel Mathemateg, Technoleg, Peirianneg a Gwyddoniaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ariannu dau brosiect tebyg hefyd, gyda £1.4m yn mynd i brosiect STEM Gogledd Cyngor Gwynedd, a £3.8m yn mynd i brosiect Technocamps 2 Prifysgol Abertawe.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y ddau brosiect yn helpu i sicrhau bod pobol ifanc, yn enwedig merched a menywod ifanc, yn parhau â’u hastudiaethau mewn pynciau gwyddonol hyd at lefel TGAU a thu hwnt.

Annog pobol ifanc

“Mae’n rhaid i Gymru fod yn genedl sy’n ymwneud â phynciau STEM os ydyn ni am ddatblygu economi agored, ddeinamig, fodern y bydd pawb yng Nghymru yn elwa arni,” meddai Eluned Morgan.

“Mae graddfa a natur y newidiadau sy’n digwydd yn dechnolegol yn cynyddu’n ddramatig ac, er mwyn sicrhau gweithlu medrus sy’n gallu manteisio ar hynny, mae’n hanfodol bod mwy o’n pobol ifanc yn dewis astudio pynciau STEM i safon uchel.

“Er bod hyn yn gryn her o ran bechgyn a merched, mae’n llawer anoddach yn achos merched.”