Mae mesurau i ddiogelu plant a gostwng yr oedran pleidleisio ymhlith y deddfwriaethau mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn nesa’.

A hi bron yn wyliau haf yn y Cynulliad, fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn amlinellu heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 17), ei raglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae’r rhaglen yn cynnwys mesurau a fydd yn:

  • rhoi terfyn ar gosb corfforol i blant yng Nghymru;
  • gosod rhwymedigaethau statudol ar bob sefydliad iechyd yng Nghymru i fod yn fwy agored a thryloyw, gyda chorff annibynnol yn cael ei greu i roi llais i bobol;
  • diwygio Llywodraeth Leol, gan ostwng yr oedran pleidleisio i gynnwys pobol ifanc 16 a 17 oed;
  • gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcas;

‘Blwyddyn brysur’

“Y flwyddyn o’n blaen fydd un o’r rhai prysuraf i ni o ran deddfwriaeth ers i Gymru gael pwerau deddfu sylfaenol,” meddai Carwyn Jones.

“Mae sicrhau bod ein llyfr statud yn barod ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn her sylweddol i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, ond rhaid i ni beidio â gadael i hynny gyfyngu ar ein huchelgais.

“Byddwn yn parhau i symud ymlaen a chyflawni ar ran pobol Cymru.”