Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn dweud bod angen gwella trefniadau gweithio oriau hyblyg a threfniadau gofal plant, ynghyd â datblygu diwylliant newydd, i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gwaith.

Mae’r adroddiad wedi’i baratoi gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Maen nhw’n credu bod ffactorau fel trefniadau haearnaidd yn y gweithle a’r rhagdybiaeth mai merched sy’n gyfrifol am ofal plant, sy’n gyfrifol am anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gwaith.

Maen nhw hefyd yn credu ei fod yn golled i’r economi, wrth i Gyngor Busnes Menywod y Deyrnas Unedig amcangyfrif y gallai’r economi dyfu 10% erbyn 2030 pe bai lefel cyflogaeth merched a dynion yn gyfartal.

Y ffeithiau

Yn ôl yr adroddiad, mae cyfradd cyflogaeth merched sydd â phlant dibynnol yng Nghymru yn 75%, tra bo dynion sydd â phlant dibynnol yn 91%.

Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at arolwg a gafodd ei gynnal gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2016.

Mae hwnnw’n cyfeirio at y ffaith bod 87% o gyflogwyr yng Nghymru yn barod i gefnogi merched beichiog a’r rheiny sydd ar gyfnod mamolaeth.

Ond roedd 71% o famau wedyn yn dweud eu bod nhw wedi cael profiadau negyddol ar ôl iddyn nhw gael plant, gyda rhai’n teimlo bod cyflogwyr yn gwahaniaethu yn eu herbyn.

Argymhellion

Ymhlith argymhellion yr adroddiad, mae’r pwyllgor yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru:

  • Hysbysebu swyddi yn y sector cyhoeddus fel swyddi ‘hyblyg yn ddiofyn’;
  • Orfodi sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus i gynnig trefniadau gweithio oriau hyblyg a pharatoi adroddiad blynyddol ar nifer y staff sy’n dychwelyd wedi cyfnod mamolaeth;
  • Gwella gwasanaethau cynghori yng Nghymru, a rhoi gwybodaeth i ferched am eu hawliau a rhwymedigaethau’r gwaith ar ddechrau cyfnod eu beichiogrwydd.

“Moderneiddio gweithleoedd”

 “Nid yw atal cyfran helaeth o’r boblogaeth rhag cyfrannu eu sgiliau a’u profiad at y gweithlu yn deg, ac nid yw’n gwneud synnwyr economaidd,” meddai John Griffiths, cadeirydd y pwyllgor.

“Yn sgil newidiadau technolegol, cymdeithasol ac economaidd, dyma’r amser i foderneiddio gweithleoedd fel eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol i bawb, nid rhieni yn unig.

“Rydym yn credu y gall Llywodraeth Cymru osod safon drwy hyrwyddo gweithio hyblyg, gan sicrhau bod sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus yn hyblyg yn ddiogyn, drwy ailasesu ei gynnig gofal plant newydd.”