Mae 201 safle yng Nghymru wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd eleni – y nifer uchaf erioed.

Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu i fannau gwyrdd o ansawdd, gan gynnwys parciau, coetiroedd a rhandiroedd.

Ac ymysg mannau buddugol y flwyddyn hon mae Parc Aberdâr, Mynwent Wrecsam a Champws Bae Prifysgol Abertawe.

Hefyd, am y tro cyntaf erioed, mae ysbyty o Gymru wedi derbyn y wobr, sef Ysbyty Glan-rhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, sy’n gyfrifol am ddyfarnu’r wobr yng Nghymru – ar y cyd â Llywodraeth Cymru – ac mae’r safleoedd yn cael eu hasesu gan arbenigwyr.

“Blwyddyn lwyddiannus”

“Rydym wrth ein bodd yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall i Wobrau’r Faner Werdd yng Nghymru,” meddai Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus, Lucy Prisk.

“Mae’r 201 o faneri sydd yn hedfan yn dyst i ymroddiad a brwdfrydedd y staff a’r gwirfoddolwyr ar draws y wlad sydd yn gweithio’n ddiflino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd.

“Byddwn yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yr haf hwn i fwynhau’r parciau a’r mannau gwyrdd anhygoel sydd gennym ar drothwy’r drws.”