Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones alw am fwy o hyblygrwydd gan yr Undeb Ewropeaidd yn ystod trafodaethau Brexit.

Fe fydd yn cyfarfod â phrif negodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier ym Mrwsel heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 16), a hynny am yr ail waith.

Yn ystod y cyfarfod, fe fydd yn ategu ei neges fod Llywodraeth Cymru o blaid aros yn y farchnad sengl a’r undeb dollau, ond y dylai Papur Gwyn Llywodraeth Prydain fod yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau difrifol.

Fe fydd e hefyd yn cyfarfod â chynrychiolydd Llywodraeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd, Syr Tim Barrow yn ystod ei ymweliad, ac yn traddodi araith yng Nghanolfan Bolisi Ewrop.

Bydd ei araith yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit, yn myfyrio ar drafodaethau Llywodraeth Prydain ac ar sut all Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd gydweithio er mwyn sicrhau’r cytundeb gorau posib.

‘Diffygion’

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Er bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gwrthod cyfaddef bod ei llinellau coch annoeth yn perthyn i’r gorffennol, mae wedi mynd ati, o’r diwedd, i amlinellu sefyllfa negodi cymharol gredadwy.

“Mae Papur Gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi parhau i gymryd rhan yn rhannol yn y Farchnad Sengl a pharhau i gymryd rhan mewn Undeb Dollau dan unrhyw enw arall.

“Mae llawer o ddiffygion yn y cynigion ac mae gormod o gwestiynau o lawer yn parhau heb eu hateb. Fodd bynnag, rwy’n credu ei fod yn sail i ddechrau cynnal trafodaethau mwy difrifol.

“Rwy’n annog 27 gwlad yr UE i ddangos rhywfaint o hyblygrwydd i osgoi’r sefyllfa drychinebus o fod heb gytundeb.

“Mae’n amlwg bod angen cydweithio o’r fath wrth weld ymosodiadau gweinyddiaeth ddiffyndollol yr Unol Daleithiau ar ddiwydiant dur y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae hyn yn dangos yn glir bod y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn rhannu’r un gwerthoedd a buddion craidd.

“Drwy gamu dros y llinellau coch a chydweithio, rwy’n credu y gallwn ddod i gytundeb sy’n sylfaen i berthynas economaidd hirdymor.”