Mae prif drefnydd gŵyl o blaid annibyniaeth i Gymru wedi dweud wrth golwg360 mai dod â phobol â safbwyntiau ac agweddau gwahanol at ei gilydd yw eu nod.

Fe fydd ‘Haf Yes Preseli’ yn cael ei chynnal ym Mharc Trefach ym Mynachlogddu ddydd Sadwrn nesaf, ac mae’r digwyddiad yn gyfuniad o sgyrsiau, cerddoriaeth a chomedi.

Mae dros 40 o docynnau eisoes wedi’u gwerthu ar gyfer y digwyddiad ac maen nhw ar gael ar y we tan ddydd Mawrth. Fydd dim tocynnau ar gael ar y diwrnod.

Dywedodd Chantel Mathias wrth golwg360: “Fe lansion ni Yes Preseli flwyddyn a hanner yn ôl a chael ambell gyfarfod i ddechrau.

“Wedyn, wnes i feddwl, “Pam cael y cyfarfodydd hyn mewn stafell gefn?” Byddai’r un bobol yn dod bob tro, a doedden ni ddim yn gwneud unrhyw beth.

“Bydden ni bob tro yn cyfarfod mewn lle cyhoeddus er mwyn ennyn diddordeb pobol ond roedd gormod o ofn arnyn nhw i ddod. Roedd pobol yn swil hefyd.

“Roedd angen i ni fynd allan, felly, a chreu digwyddiad lle byddai pobol yn teimlo bod croeso iddyn nhw gymryd rhan.”

FfrinjFfest Abertawe’n ysbrydoliaeth

Yn ôl Chantel Mathias, cafodd y grŵp ei ysbrydoli gan ddigwyddiad FfrinjFfest Abertawe ym mis Mawrth.

“Roedd y ffordd wnaethon nhw’r digwyddiad yn hamddenol a chyfeillgar a ddim yn rhy heriol, felly fe ges i fy ysbrydoli gan hynny.

“Wnes i gysylltu â phobol dw i’n eu dilyn ar Twitter a dewis pynciau’n ymwneud ag annibyniaeth.”

Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad mae Syd Morgan, Mark Hooper a Chymdeithas Waldo Williams, ac mae Chantel Mathias yn dweud bod yr elfen hanesyddol i annibyniaeth hefyd yn bwysig i’r digwyddiad.

“Fe wnaethon ni benderfynu fel grŵp y bydden ni’n canolbwyntio ar faterion lleol, felly wnaethon ni ddewis Cymdeithas Waldo Williams i roi sgwrs amdano fe.

“Yn un o’n cyfarfodydd cyntaf, dywedon ni ein bod ni am wneud pethau am hanes a’r celfyddydau yng Nghymru ac felly, mae e’n cyfuno’r ddau beth yna. Mae tipyn o sôn hefyd am hanes fel rhan o’r drafodaeth am annibyniaeth ar hyn o bryd.

“Fe wnes i ddewis pynciau sy’n cael eu trafod ar yr hashnod #indywales – hunaniaeth, yr economi a phorthladdoedd, sef un o fy mhrif ddiddordebau i, yn ogystal ag ynni gwyrdd ar ôl methiant morlyn llanw Abertawe.”

Cangen Preseli’n tyfu

Yn ôl Chantel Mathias, mae cangen Preseli’n tyfu ac mae’r digwyddiad ddydd Sadwrn yn gyfle i dyfu ymhellach.

“Roedd gyda ni 10 o bobol yn y cyfarfod cyntaf ond mae 36 o bobol ar y rhestr e-bost erbyn hyn. Mae rhai’n gefnogwyr ac eraill yn aelodau. Ond mae’r niferoedd wedi treblu.

“Ond gadewch i ni ddyblu’r niferoedd sy’n dod i ddigwyddiadau. Os gallwn ni eu treblu, gorau oll.

“Byddwn i wrth fy modd yn cyrraedd 50 o bobol yn dod i’r digwyddiad. Bydd y bobol hynny wedyn yn mynd i ffwrdd i siarad â 50 o bobol eraill yn hytrach na’r un bobol yn dod dro ar ôl tro.”

Yn ogystal â bod yn gyfle i gymdeithasu, fe fydd neges bwysig yn gefndir i’r diwrnod, meddai.

“Fe wnes i ddweud fel jôc y byddwn i’n gwisgo arfwisg! Ry’n ni am brocio a chreu trafodaeth am annibyniaeth.

“Yr hashnodau #indyconfident #indycurious ac #indycautious oedd wedi dechrau’r cyfan i Yes Cymru ac felly ry’n ni am i bobol drafod annibyniaeth gan ddefnyddio’r rhain.”

Mae amserlen lawn y diwrnod i’w gweld ar wefan wefan Yes Cymru, a’r tocynnau ar gael drwy fynd i’r safle tocynnau. Mae’r pris mynediad yn cynnwys cinio bwffe a choffi neu de gyda chacen.