Mae dau ddyn 21 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ar ôl gwrthdrawiad angheuol ym Mlaenau Gwent yn oriau mân y bore.

Roedd tri dyn yn teithio mewn VW Polo lliw arian pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 3.05am ar Ffordd Blaenafon, Brynmawr.

Aed ag un o’r teithwyr i Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni lle bu farw o’i anafiadau.

Mae’r ddau arall a oedd yn y car, sydd o ardal Blaina, yn dal yn y ddalfa.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth gan ofyn i unrhyw un a oedd yn dystion i’r gwrthdrawiad neu a welodd y cerbyd yn yr ardal ychydig ynghynt eu ffonio ar 101 gan nodi cyfeirnod 111 14/07/18