Mae’r heddlu a gwasanaethau Safonau Masnach yn rhybuddio’r cyhoedd am dwyllwyr ar y ffôn sy’n honni eu bod yn galw ar ran Cyllid y Wlad.

Yn ôl David Williams o Heddlu Gogledd Cymru, mae nifer o bobl wedi bod yn derbyn negeseuon yn ddiweddar bod yn rhaid iddyn nhw dalu trethi sy’n ddyledus neu gael eu harestio.

“Twyll a dim byd arall yw hyn, a ddylai neb ddechrau sgwrs gyda’r galwr na datgelu manylion personol,” meddai.

“Os ydych yn derbyn neges wedi’i recordio yn gofyn i chi ffonio rhif penodol, peidiwch byth â dilyn eu cyfarwyddiadau. Ni fyddwch yn wynebu achos llys fel mae’r galwr yn honni.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael wrth ffonio’r gwasanaethau Safonau Masnach – rhif y llinell Gymraeg yw 03454 040505.