Yn ystod y mis hwn mae’r Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu dros £282,000 i 51 o gymunedau ledled Cymru.

Mae’r arian wedi ei roi i brosiectau sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol ifainc a theuluoedd.

Daw’r grantiau o law’r cynllun Arian i Bawb, ac ymhlith y prosiectau, mae’r Loteri Genedlaethol wedi cyflwyno:

 

  • £10,000 i LGBTQ+ Sport Cymru sy’n cynnal sesiwn breswyl i wella iechyd meddwl pobol ifainc a’u hannog i rannu eu profiadau;
  • £9,873 i Mind Aberystwyth ar gyfer datblygu a rhedeg rhaglen o sesiynau lles;
  • £4,000 i Resolve IT! C.I.C sy’n sefydlu rhaglen gwrthfwlio yng Nghaerdydd am gyfnod o wyth wythnos;
  • £3,330 i’r Gymdeithas Atal Dweud Brydeinig sy’n cynnal cynhadledd yng Nghaerdydd i ennyn hyder pobol ar incwm isel sy’n dioddef o atal dweud;
  • £2,549 i Bwyllgor Lles Llangrannog er mwyn prynu cyfarpar a meinciau newydd ar gyfer gardd gymunedol.

‘Cefnogi pobol ifanc’

 “Y llynedd, dyfarnodd y Gronfa Loteri Fawr £19m i gefnogi pobol ifanc yng Nghymru trwy 314 o brosiectau,” meddai Gareth Williams, Rheolwr Rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.

“Mae cefnogi prosiectau ar materion y maen nhw eisiau mynd i’r afael â nhw’n bwysig iawn i ni.

“Rydym eisiau cefnogi prosiectau i daclo’r materion sy’n wirioneddol bwysig i bobol ifanc.

“Mae’r ystod o brosiectau yr ydym wedi’u gweld y mis yma’n dangos pa mor eang y mae eu diddordebau.”