Y Wasg Lundeinig wnaeth ysbrydoli dilledyn diweddara’ cwmni Shwl Di Mwl – crys sy’n dathlu buddugoliaeth Croatia tros Loegr nos Fercher.

Mae perchennog y cwmni crysau-t o Sir Gâr, Owain Young, yn dweud ei fod wedi dathlu methiannau Lloegr ers blynyddoedd trwy greu crysau tebyg.

Ac eleni mae ei gwmni wedi creu crys-T gyda sgôr y gêm, 2-1 i Croatia.

Yn ogystal â’r sgôr, mae ar y crys ddyfyniad gan gyn-reolwr Croatia, Slaven Bilic, a ddisgrifiodd y canlyniad fel hyn ar ITV: “Mae’n beth da i’r gwledydd bychain i gyd – ac i Gymru hefyd”.

Mae Owain Young yn cydnabod bod yna rhywfaint o “genfigen” tu ôl i’r crys, ond yn mynnu mai rhwystredigaeth at agwedd y wasg Lundeinig wnaeth ei ysgogi’n bennaf.

“Dw i ddim yn casáu Saeson o gwbl. Pob lwc iddyn nhw,” meddai wrth golwg360. “Y Wasg yn anffodus sy’n hala ti’n grac ambythdi nhw. R’on nhw’n diystyru Croatia fel eu bod nhw’n ddim byd.

“Maen nhw’n diystyru gwledydd eraill. Dyna’r trwbl gyda nhw. Y Wasg yw e.”

Y crys

Er bod y crysau ond wedi bod ar werth ers y bore yma, mae’r cwmni wedi gwerthu 15 yn barod – mae hynny’n rhywfaint o “syndod”  i Owain Young.

Mae’n nodi bod y gêm wedi bod yn “artaith” iddo – roedd ar flaen ei sedd eisiau gweld Lloegr yn colli.

Ac mae yn falch o gael gosod dyfyniad Slaven Bilic ar y crys.

“R’on i wedi meddwl am ryw gynllun arall i ddweud y gwir,” meddai. “Ond o’n i’n edrych ar y gêm, ac mi ddaeth hwnna lan, ac o’n i’n meddwl bod e’n dweud y cyfan, i ddweud y gwir.”