Mae’r cwmni pŵer niwclear, Horizon, wedi ariannu cyfres o weithgareddau er mwyn dysgu sgiliau hwylio i blant ysgol yng Nghymru.

Mae’r rhaglen weithgareddau wedi’i threfnu gan yr elusen All Afloat.

 Cafodd yr elusen ei sefydlu gan staff o Gymdeithas Hwylio Frenhinol Cymru sy’n ceisio gweddnewid bywydau pobol ifanc dwy ddysgu sgiliau hwylio iddyn nhw.

Mae Horizon, sy’n gobeithio codi ail orsaf bŵer niwclear ar  Ynys Môn, wedi rhoi arian i gefnogi rhaglen yr elusen o dan eu Cynllun Buddsoddi Cymunedol – sy’n cynnig nawdd i sefydliadau a phrosiectau yn Ynys Môn a gogledd Cymru.

Hwylio yng Nghaergybi

Mi fydd y gweithgareddau hwylio yn cael eu cynnal yn ystod yr haf eleni, gyda’r rhan fwya’ ohonyn nhw’n digwydd yng Nghaergybi.

Y penllanw wedyn fydd Gŵyl OnBoard y Gymdeithas Hwylio Frenhinol, a fydd yn cael ei chynnal ar Lyn Tegid ger y Bala ym mis Medi.

Mae’r rhaglen yn rhan o ddathliadau ‘Blwyddyn y Môr’, sef ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at arfordir Cymru.

“Arbennig o ddiolchgar”

 Yn ôl Philip Braden, sy’n un o ymddiriedolwyr All Float, maen nhw fel elusen yn “arbennig o ddiolchgar” i Horizon am y nawdd.

“Heb fuddsoddiad gan sefydliadau a busnesau lleol ni fyddem yn gallu cynnig y gweithgareddau hyn, ac yn y pen draw byddai cenedlaethau’r dyfodol yn colli allan ar sgiliau bywyd hollbwysig,” meddai.

“Rydym ni eisoes yn disgwyl haf prysur o weithgareddau, a fydd yn gweld dros 150 o blant lleol yn mynd ar y môr ar draws gogledd Cymru.”