Mae disgwyl cawodydd o law trwm mewn rhai ardaloedd o Gymru heddiw, ynghyd â llifogydd a phroblemau trafnidiaeth.

Bellach mae yna rybudd tywydd melyn mewn grym dros y rhan fwyaf o’r wlad, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y bydd yna fellt a tharanau.

Mae cartrefi a busnesau yn debygol o gael eu heffeithio gan lifogydd, ac y bydd oedi ar deithiau ar hyd ffyrdd.

Hefyd, mae’r Swyddfa Ystadegau yn nodi bod toriadau pŵer ac oedi â theithiau trên yn “bosib”.

Bydd rhwng 20 a 30 milimedr o law yn disgyn mewn rhai ardaloedd o fewn awr, ond bydd rhai ardaloedd yn weddol sych ar y cyfan.

Dyw’r rhybudd tywydd ddim mewn grym yn Ynys Môn, arfordir gogleddol Cymru a thros y rhan fwyaf o dde orllewin Cymru.