Mae rhai o brif undebau amaethyddol gwledydd Prydain wedi croesawu Papur Gwyn Llywodraeth Prydain ar Brexit.

Mewn datganiad ar y cyd rhwng llywyddion yr NFU o bob un o wledydd Prydain, maen nhw’n dweud eu bod yn “falch” ar ôl gweld cynlluniau Llywodraeth ar Brexit.

Fe gawson nhw eu plesio yn neilltuol ar ôl gweld mai gobaith Llywodraeth Prydain yw sicrhau bod masnach rydd a dirwystr yn parhau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.

“Os yw ffermwyr gwledydd Prydain yn parhau i chwarae rhan mewn cynhyrchu bwydydd fforddiadwy o safon uchel i’r cyhoedd, ynghyd â darparu ar yr amgylchedd, yna mae’r egwyddor o ardal fasnach rydd ar gyfer nwyddau, gan gynnwys bwyd, yn hanfodol i’r sector,” meddai’r undebau amaethyddol.

Safonau lles anifeiliaid

 Yn ôl yr undebau, mae ffermwyr gwledydd Prydain yn cynhyrchu’r lefel uchaf o fwyd yn y byd.

Maen nhw felly’n falch y bydd Llywodraeth Prydain yn ceisio cadw’r safonau hyn, ar yr amod na fydd unrhyw bolisi masnach annibynnol yn “tanseilio’r” safonau hyn.

“Mae’n hanfodol nad yw polisi masnach annibynnol y Deyrnas Unedig ddim yn ceisio tanseilio’r safonau hynny, ac yn sefydlu perthynas agos gydag Ewrop a fydd yn sicrhau bod y safonau hyn yn parhau.”

Pwysigrwydd gweithwyr Ewrop

 Rhan arall o gynlluniau’r Llywodraeth yw dod â’r rhyddid i symud rhwng gwledydd i ben.

 Ond mae’r undebau’n lleisio eu pryderon ynghylch y bwriad hwn, gan y bydd yn effeithio ar weithwyr tymhorol a pharhaol sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd i weithio yn y Deyrnas Unedig.

Maen nhw’n dweud bod angen “cydnabod pwysigrwydd” y gweithwyr hyn wrth lunio polisi mewnfudo newydd.

“Mae’r diwydiant bwyd ac amaethyddol yn dal i annog y Llywodraeth i barhau gyda pholisi mewnfudo sy’n seiliedig ar ffaith ac anghenion busnes, gan adlewyrchu pwysigrwydd y gweithwyr hyn i’n sector bwyd ac amaeth.”