Mae teithiau o gefnogaeth at Aelod Cynulliad â chancr, wedi dangos bod yna “frawdgarwch” yn y Cynulliad rhwng pob plaid.

Dyna yw barn yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd, a fydd yn arwain taith arbennig yn y gogledd yfory (dydd Sadwrn, Gorffennaf 14).

Bydd y daith hon yn rhedeg ar y cyd â ‘Taith Steffan Lewis’ a fydd yn cael ei chynnal yng Nghymoedd y de – a bydd beth bynnag ddeg Aelod Cynulliad yn cymryd rhan, o bob plaid, yn cynnwys Siân Gwenllian (Plaid Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymru), Ann Jones (Llafur) a Mandy Jones (UKIP).

“Mae wedi tynnu ni gyd at ein gilydd yn y Cynulliad achos, wrth gwrs, r’yn ni’n dueddol o fodoli mewn rhyw fath o silos pleidiol wleidyddol,” meddai. 

“Rydyn ni’n gweld ein gilydd yn y siambr pan mae ‘na ddadl, neu pan mae cwestiynau yn cael eu gofyn. Ond mae hyn yn rhywbeth sy’n pontio ar draws ffiniau gwleidyddol.

“A dw i’n credu bod hynny’n tanlinellu, a’n ein hatgoffa ni gyd ar ddiwedd y dydd, mai bodau dynol ‘yn ni. Boed ni’n weinidogion, neu aelodau meinciau cefn, neu unrhyw beth.”

Y daith

Bydd y daith yn arwain cerddwyr o dafarn Cross Keys yn Llandudno, i dafarn Crosskeys, Bae Penrhyn – taith pum milltir o hyd.

Mae’n cael ei chynnal fel bod cefnogwyr gogleddol ‘Taith Steffan Lewis’ yn medru cyfrannu at yr achos, gan fynd o un ‘Crosskeys’ i’r llall, gan fod teithwyr y de yn pasio heibio Pontycymer (Crosskeys, yn Saesneg).

Mae unrhyw un yn medru cymryd rhan, ac mae modd iddyn nhw wneud hynny ar unrhyw adeg. Bydd yn dechrau am 10yb ac gorffen tua chanol dydd, gyda’r arian a godir yn mynd i Ganolfan Ganser Felindre.

Yn ôl Llŷr Gruffydd, mae taith y de “dipyn yn fwy heriol” gan fod y dirwedd yn fryniog, tra bod Llandudno “mwy neu lai yn gwbwl fflat”.

Gallwch weld Llŷr Gruffydd yn siarad am y digwyddiad isod…