Bydd ffrindiau, cydweithwyr a theulu’r Aelod Cynulliad, Steffan Lewis, yn cerdded trwy’r Cymoedd y penwythnos hwn, er mwyn codi arian at achos da.

Cyhoeddodd yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, ym mis Rhagfyr y llynedd bod ganddo ganser y coluddyn sydd wedi datblygu i’w bedwerydd cyfnod.

Ac ers derbyn ei ddiagnosis, mae Steffan Lewis wedi bod yn derbyn triniaeth mewn nifer o lefydd, yn cynnwys Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.

Er mwyb cyfleu eu diolchgarwch, mae teulu a chyfeillion Aelod Cynulliad De Ddwyrain Cymru wedi mynd ati i drefnu ymgyrch a thaith, er mwyn codi arian at y ganolfan honno.

‘Taith Steffan Lewis’ yw enw’r daith, ac mae disgwyl y bydd tua 170 o bobol yn cymryd rhan – bu’n rhaid i bob un godi isafswm o £50.

Manylion y daith

Fe fydd y daith dros ddeg milltir o hyd, gyda’r cerddwyr yn teithio o Gwmcarn i’r Coed Duon – gan basio trwy Gelligroes. 

Fe fyddan nhw’n gadael Canolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn am 9.00yb dydd Sadwrn (Gorffennaf 14), ac yna’n dringo’r llwybr cymharol serth i Begwn y Bwlch, islaw’r Twmbarlwm.

O’r pegwn, fe fyddan nhw wedyn yn cerdded lawr i Bontycymer cyn ymuno â llwybr Sirhywi tuag at Gelligroes.

Yna, fe fyddan nhw’n troi am y Coed-duon, ac ar ôl cyrraedd yno bydd parti yn cael ei gynnal yng nghlwb rygbi’r dre’.

Codi arian

Bydd unrhyw un sydd am gymryd rhan, ond sydd ddim eisiau cerdded am deg milltir gyfan, yn medru ymuno â’r daith ym Mhontycymer neu’r Coed Duon.  

Hefyd, bydd pobol o’r gogledd sydd am gymryd rhan, yn medru gwneud hynny trwy ymuno â thaith a fydd yn cael ei chynnal ar yr un pryd yn y gogledd.

Mae £8,000 eisoes wedi’i godi gan yr ymgyrch – yn bennaf ar eu gwefan JustGiving.