Mae awdur adolygiad ar ddyfodol S4C yn dweud ei fod rhwng dau feddwl os y dylai darlledu gael ei ddatganoli i Gymru.

Roedd Euryn Ogwen Williams yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad y bore yma (dydd Iau, Gorffennaf 12) ac awgrymodd bod ei galon am weld pwerau darlledu yn dod i Fae Caerdydd, tra bod ei ben yn dweud fel arall.

“Mae yna ben a chalon yn hwn,” meddai wrth gael ei holi am ei farn bersonol ar ddatganoli darlledu.

“Dw i yn credu os ydi darlledu yn cael ei ddatganoli bod yna gymaint o waith caled sydd angen ei wneud.

“Mae datganiadau dw i’n eu clywed, er bod fy nghalon i’n dweud ‘o ie, cenedl angen ei darlledu ei hun’, maen nhw mor wag.

“Achos mae agosatrwydd gwleidyddion a darlledu yn broblem enfawr a byddai rhywun ddim eisiau gweld S4C mewn sefyllfa wahanol achos darlledwyr o bob rhan o’r byd mae pobol Cymru yn mynd i fod [yn gwylio], maen nhw’n mynd i wylio cymaint o Netflix ag maen nhw o S4C.

“Felly dydi rhywun ddim eisiau creu sefyllfa lle mae S4C dan anfantais oherwydd bod o’n cael ei gadw yn dynn.

“Ar y llaw arall, mae’r cyfraniad all S4C ei wneud i Gymru yn enfawr oherwydd mae o wedi gwneud cyfraniad mawr i ddarlledu yn y Deyrnas Unedig. Mae o’n rhan o’r ecosystem yna,” meddai Euryn Ogwen Williams.

“Felly, os ydi o’n gallu gwneud hynna i’r Deyrnas Unedig, gallai wneud o yng Nghymru hefyd.

“Ond mae’n rhaid i unrhyw gytundeb datganoli gymryd i ystyriaeth bod o’n colli’r dylanwad Prydeinig yna.”

Catalwnia a Gwlad y Basg “yn wahanol”

Fe ofynnodd cadeirydd y pwyllgor, Bethan Sayed AC, wedyn pam fyddai S4C yn “colli dylanwad” wrth ddatganoli darlledu.

“Mi fyddan nhw’n sicr yn colli rhyw gymaint ohono fo achos maen nhw’n dod allan o’r ecosystem arbennig yna,” meddai Euryn Ogwen Williams.

“Bydden nhw ddim yn gallu cael yr un bartneriaeth, byddai’n wahanol. Felly y cyfan dw i’n ei ddweud ydi, mae yna lot o waith, dw i’n credu bod eisiau mynd iddo fo yn llawer dyfnach.”

Cyfeiriodd ar Gatalwnia a Gwlad y Basg, lle mae darlledu wedi datganoli yno eisoes, gan ddweud bod sefyllfa Cymru yn wahanol.

“Yn 1978 fe sefydlwyd yr autonomous regions yn Sbaen ac mi ddaeth Catalwnia ac Eskadi [Gwlad y Basg] i mewn, yn 1979 fe wrthodwyd datganoli yng Nghymru ac fe ddaeth S4C.

“Yn 1982 dw i’n cofio bois Catalwnia ac Eskadi yn dod atom ni i S4C i weld sut oedd creu darlledwr newydd.

“Fan yna mae’r hanes, rydyn ni wedi dod o rywle gwahanol felly mae’r meddwl sy’n rhaid mynd i sôn am ddatganoli yn wahanol, dydi o ddim yn debyg i Gatalwnia ac Eskadi, mae ganddyn nhw eu hanes ei hunain.”