Mae sefydlydd grŵp achub moch daear o Gymru wedi cael ei anrhydeddu gan elusen yr RSPCA am ei waith ar les anifeiliaid gwyllt am dros hanner canrif.

Daw Michael Sharrat o Hendy Gwyn-ar-Dâf, Sir Gaerfyrddin, ac mae’n gyfrifol am y grŵp Badger Watch and Rescue Dyfed, sy’n gweithredu yng ngorllewin Cymru.

Mae ganddo uned fechan ar gyfer adfer iechyd anifeiliaid gwyllt, a thros y blynyddoedd mae wedi helpu dros 300 o lwynogod, moch daear ac anifeiliaid eraill.

Mae hefyd ers rhai blynyddoedd wedi bod yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r diciau yng nghefn gwlad.

“Ffynnon o wybodaeth ac arbenigedd”

“Mae Mike wedi bod yn rhoi cymorth i berchnogion tai ynglŷn â moch daear sy’n achosi problemau yn eu gerddi,” meddai Mike Hogben o RSPCA Cymru.

“Erbyn diwedd y sgwrs, mae’r person a oedd yn pryderu yn awyddus i fwydo’r moch daear a’u hannog nhw i ddod i mewn i’w gerddi.

“Mae’n ffynnon o wybodaeth ac arbenigedd ac wastad gyda gwên pan fo angen cymorth.”