Mae ansicrwydd tros ddyfodol siop gigydd hanesyddol ym Mangor, gyda rhai adroddiadau lleol yn awgrymu ei bod wedi cau ei drysau am byth.
Mae siop G Williams a’i Fab, sy’n cael ei hadnabod yn lleol fel siop ‘Johnny 6’ wedi bod ar gau am ddiwrnod, a dim rhybudd nac eglurhad ar y llenni metel.
Mae’r siop ar y Stryd Fawr yn y ddinas yn adnabyddus am gig o safon a selsig a byrgyrs cartref ac yn fwy diweddar am gynnig gwasanaeth têc-awê a rholiau brecwast a chig rhost.
Mae wedi bod yn gwasanaethu dinas Bangor ers 148 o flynyddoedd.
Roedd y siop ar agor ddydd Sadwrn diwethaf (Gorffennaf 7) ond erbyn nos Fawrth, roedd hi wedi cau, ac mae lle i gredu y gallai wyth aelod o staff fod allan o waith.
Yr wythnos ddiwethaf, ymddangosodd y siop ar restr Llywodraeth Prydain o fusnesau sydd wedi methu â chynnig yr isafswm cyflog i’w gweithwyr.