Mae adroddiad cyfrinachol sydd wedi dod i law golwg360 yn argymell cyfres o newidiadau i ganolfan Gymraeg Caerdydd, a agorwyd dros ddwy flynedd yn ôl.

Mae golwg360 yn deall bod Llywodraeth Cymru, ar gais y sawl grŵp sydd ynghlwm â’r Hen Lyfrgell, wedi rhoi £20,000 i Gyngor Caerdydd er mwyn ariannu’r adolygiad i benderfynu os oes dyfodol gan y ganolfan.

Ond er i’r adolygiad gael ei gwblhau ddeg mis yn ôl ym mis Medi’r llynedd, does dim ymateb wedi’i gymeradwyo na chwaith unrhyw waith wedi’i wneud ar weithredu’r argymhellion niferus.

Mae’r adroddiad, sydd wedi’i baratoi gan yr ymgynghorydd Philip Lay o gwmni PHL Ventures yng Nghaerdydd, yn dweud bod nifer o heriau yn wynebu’r Hen Lyfrgell, ond bod dyfodol iddi.

Mae’r ganolfan iaith, a gafodd £400,000 gan Lywodraeth Cymru, wedi dod dan y lach yn ddiweddar, gyda chwyno am y ‘diffyg Cymraeg’ yn y caffi bar.

Cyngor Caerdydd sy’n berchen ar yr adeilad a Menter Caerdydd sydd â’r cyfrifoldeb dros ddelifro’r £100,000 o incwm mewn rhent – “tasg fawr iawn i sefydliad sydd â nifer gyfyngedig o adnoddau a gweithwyr,” yn ôl yr adroddiad.

Yr argymhellion

Mae angen sefydlu Bwrdd newydd, meddai’r adroddiad, i reoli’r Hen Lyfrgell, gwella profiad y cwsmer a sefydlu gweledigaeth glir at y dyfodol, yn ogystal â rhoi mwy o arian i’r ganolfan.

Mae hefyd angen gwella mynediad i’r adeilad, sefydlu ‘brand’ a chymeriad i’r lle er mwyn dangos Cymreictod a cheisio denu pawb i ymweld â’r ganolfan, nid dim ond siaradwyr Cymraeg.

Mae’r awdur hefyd yn dweud bod angen darparu gwybodaeth i dwristiaid y brifddinas yno, gan fynd y “tu hwnt i’r gwasanaethau ymwelwyr traddodiadol a chynnwys gwasanaethau gwybodaeth am yr iaith Gymraeg”.

Dylai staff y ganolfan fod yn “llysgenhadon” dros Gymru a’r Gymraeg, meddai Philip Lay, gan greu “brand pobol i redeg drwy’r adeilad”.

Dim ymateb

Ond er i’r adroddiad gael ei gwblhau ar Fedi 20, 2017, mae’r grwpiau ynghlwm â’r Hen Lyfrgell yn dal i aros i gyfarfod â Chyngor Caerdydd er mwyn trafod ymateb a’r ffordd orau o fynd ymlaen.

Mae Menter Caerdydd wedi cadarnhau ei bod wedi gwneud cais i Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru i drafod yr adroddiad, ond does dim wedi’i drefnu eto.

“Mae Menter Caerdydd wedi gofyn i Gyngor Caerdydd am gyfarfod ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru er mwyn trafod argymhellion yn adroddiad Philip Lay,” meddai’r prif weithredwr Manon Rees-O’Brien wrth golwg360.

“Rydym yn croesawu nifer o’r pwyntiau yn yr adroddiad ac yn edrych ymlaen at sgwrs gadarnhaol a strategol yn y dyfodol agos.”

Yn ôl Huw Onllwyn Jones, cadeirydd elusen yr Hen Lyfrgell, bu’n rhaid mynd at y Comisiynydd Gwybodaeth,  i orfodi Cyngor Caerdydd i ddangos yr adroddiad iddyn nhw, ar ôl i gais Rhyddid Gwybodaeth fethu.

Dywed cyn-bennaeth iaith Llywodraeth Cymru ei fod yn poeni dros ymateb y Llywodraeth hyd yma i bryderon ynglŷn â’r Hen Lyfrgell.

“Y peth pwysig yw bod yr adroddiad gennym ni nawr ac ry’n ni’n gweld e’n beth positif iawn. Mae gwir angen eistedd lawr nawr efo’r Cyngor a’r Llywodraeth i drafod dyfodol yr Hen Lyfrgell,” meddai.

“Un peth sy’n poeni fi yw bod y Llywodraeth yn dweud bod hwn ddim byd i’w wneud efo nhw, bod nhw wedi rhoi’r £400,000 a bod nhw’n hapus bod y gwaith oedd i’w gyflawni efo’r £400,000 wedi’i gyflawni.

“Ond mae hwnna’n anghofio mai gweledigaeth y Llywodraeth oedd sefydlu canolfan iaith Gymraeg – wel ydyn nhw’n meddwl bod hon yn ganolfan iaith Gymraeg sy’n ateb eu gweledigaeth nhw?

“Achos does dim llawer yn digwydd yna, roeddwn i yn Llaeth a Siwgr eto ddoe, gwasanaeth di-Gymraeg gefais i.

“Bwyd hyfryd iawn ond gwasanaeth di-Gymraeg a cherddoriaeth Saesneg yn chwarae yn y cefndir. Ife dyna yw gweledigaeth y Llywodraeth o beth yw canolfan iaith Gymraeg i fod?”

Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i’r adroddiad, mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn mynnu o hyd mai nid mater iddyn nhw yw’r Hen Lyfrgell.

“Mater i Gyngor Sir Caerdydd yw hwn,” meddai.

“Rhoddwyd grant cyfalaf o £400,000 i Gyngor Dinas Caerdydd i sefydlu’r Ganolfan Gymraeg yn yr Hen Lyfrgell a pharatoi cynllun busnes ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd y ganolfan i’r dyfodol. Cyflawnwyd amcanion y grant hynny yn 2015.

“Bydd yr holl ganolfannau iaith a sefydlwyd drwy’r grant yn cael ei gwerthuso maes o law.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Caerdydd.