Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw’r dyn a fu farw yn dilyn damwain draffig ar y M4 ddechrau’r wythnos.

Bu farw Simon Jones, 23, o Lanelli, yn yr ysbyty yn dilyn damwain ar y darn o’r M4 rhwng Penllergaer a’r Hendy brynhawn dydd Llun (Gorffennaf 9).

Roedd y damwain yn cynnwys Seat Ibiza gwyn a fan Mercedes Sprinter gwyn.

Mewn teyrnged iddo, mae ei deulu yn disgrifio Simon Jones fel “mab, partner a brawd cariadus a oedd yn caru ei gerddoriaeth ac wedi byw bywyd i’r eitha’.”