Fe fydd busnesau o Gymru yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 11) er mwyn trafod sut y gallan nhw elwa o’r cynllun i ehangu Maes Awyr Heathrow.

Dyma’r eildro i’r Uwchgynhadledd Busnes Heathrow gael ei chynnal yn y brifddinas.

Y nod yw sicrhau bod busnesau Cymru mewn sefyllfa dda i elwa ar fwriad Llywodraeth Prydain o adeiladu trydedd lanfa ym maes awyr mwya’ gwledydd Prydain.

Ar ôl derbyn cymeradwyaeth Aelodau Seneddol fis diwetha’, mi fydd y cynllun adeiladu gwerth £14bn, ac mae disgwyl iddo greu 8,400 o swyddi a darparu gwerth £8bn i’r economi.

Yn ystod yr uwchgynhadledd ei hun, mi fydd cyfle gan gynrychiolwyr dros 80 o gwmnïau o Gymru glywed anerchiadau gan nifer o unigolion, gan gynnwys Prif Swyddog Strategol Maes Awyr Heathrow, Andrew Macmill.

Budd i Gymru

“Mae’r cyfarfod heddiw, yr ail o’i fath yng Nghymru, yn gyfle gwych i fusnesau bach a chanolig Cymru i hyrwyddo’u nwyddau a’u gwasanaethau i Heathrow ac i greu cysylltiadau gwerthfawr â Chadwyn Gyflenwi’r Maes Awyr gan helpu i ddod â buddiannau economaidd i Gymru,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Bydd yn gyfle ardderchog hefyd i gysylltu â busnesau eraill ac ystyried cyfleoedd i weithio ar y cyd er mwyn chwyddo’r manteision economaidd i bawb, a sicrhau bod Cymru gyfan yn teimlo budd y prosiect seilwaith mawr hwn.”