Mae cwmni o Gymru’n arwain prosiect i ddatblygu triniaeth bôn-gelloedd newydd ar gyfer canser yr ymennydd.

Mae Creo Medical ymhlith y partneriaid yn y prosiect SUMCASTEC, sydd wedi dod o hyd i driniaeth ar gyfer y math prin o ganser y bu’r gwleidydd Tessa Jowell farw ohono.

Fe fydd y partneriaid, o bob rhan o Ewrop, yn dod at ei gilydd heddiw (Gorffennaf 11) ac yfory (Gorffennaf 12) i drafod cam nesa’r prosiect sy’n ceisio brwydro yn erbyn y ddau fath mwyaf ymosodol o ganser yr ymennydd.

Fe fydd Creo Medical, ynghyd â Phrifysgol Bangor, yn cynnal gweithdy cyhoeddus yng nghanolfan Pontio ddydd Gwener (Gorffennaf 13) i drafod y prosiect.

Wrth dynnu ar arbenigedd biolegwyr a pheirianwyr electronig, fe fydd modd datblygu dyfeisiau microtechnoleg sy’n gallu adnabod a thrin bôn-gelloedd y ddau fath o ganser, glioblastoma multiforme a medulloblastoma.

Mae’r prosiect wedi’i gyllido gan Raglen Fframwaith Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd am 42 mis.

Labordy

Un o dargedau cynta’r prosiect yw creu dull ‘labordy ar sglodyn’ cyflym er mwyn gallu adnabod mathau gwahanol o ganser yn gyflym.

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Limoges yn Ffrainc wedi defnyddio sglodyn microsgopig yn llwyddiannus er mwyn adnabod bôn-gelloedd sydd wedi’u heintio â chanser – mae’r sglodyn yn adnabod celloedd iach a rhai sydd wedi’u heintio ac yn gallu gwahaniaethu rhyngddyn nhw.

Gobaith arall yw y bydd y sglodyn yn gallu atal rhai mathau o ganser rhag dychwelyd eilwaith drwy eu hadnabod a’u gwrthsefyll yn gyflym.

Ar hyn o bryd, gall gymryd hyd at 40 diwrnod ar ôl cael biopsi, i adnabod bôn-gelloedd tiwmorau ymennydd gan ddefnyddio dulliau labordy traddodiadol.

‘Gwir gyffro’

“Am y tro cyntaf mae dyfais Labordy ar Sglodyn yn medru gwahaniaethu rhwng bôn-gelloedd yr ymennydd o blith celloedd gwahaniaethol a didoli o fewn munudau,” meddai Dr Arnaud Pothier o Likoges.

“Rydym wedi cyflawni’r cam hanfodol cyntaf tuag at ynysu a thriniaeth ddethol.”