Mae merch 16 oed wedi cael ei harestio yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, maen nhw’n cynnal ymchwiliad ar ôl iddyn nhw dderbyn adroddiadau o dân ar Stryd Mansel, Porth Tywyn, am 9:45yb ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 10).

Maen nhw’n trin y tân fel un amheus, ac mae’r ferch 16 oed yn parhau yn y ddalfa.