Mae dau o gyn-gyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Abertawe wedi derbyn cyfanswm o £109,000 mewn iawndal ar ôl i dribiwnlys benderfynu eu bod nhw wedi cael eu diswyddo’n annheg.

Cafodd Steve Penny a Don Keefe wybod yn 2016 gan y perchnogion Americanaidd newydd, Steve Kaplan a Jason Levien, na fydden nhw’n cael parhau’n gyfarwyddwyr am nad oedden nhw’n gyfranddalwyr.

Dywedodd yr Americanwyr nad oedd rheolau Uwch Gynghrair Lloegr yn eu galluogi i barhau’n gyfarwyddwyr, ond does yna’r fath reolau’n bod.

Fis yn ddiweddarach, cawson nhw wybod fod rhaid i gyfarwyddwyr â chyfrannau’n cyfateb i lai na 5% o werth y clwb ymddiswyddo fel rhan o’r cytundeb i werthu’r clwb i’r Americanwyr.

Tribiwnlys

Daeth y tribiwnlys i’r casgliad ym mis Mai nad oedd yr Americanwyr wedi ymgynghori â’r ddau cyn eu diswyddo.

Mae Steve Penny, wedi derbyn £30,000 ac mae Don Keefe wedi derbyn £79,000.

Roedd y ddau yn allweddol i ddyfodol y clwb pan oedden nhw ar fin mynd allan o’r Gynghrair Bêl-droed ar ddechrau’r ganrif, ac yn y penderfyniad i symud o gae’r Vetch i Stadiwm Liberty yn 2005.